Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 3
Mehefin 2020
Amser y
cyfarfod: 11.00
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo. Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu:
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy’n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu’n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
(5 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(60 munud)
(20 munud)
Gofyn i’r Dirprwy
Weinidog a’r Prif Chwip
Neil McEvoy (Canol De Cymru): Yng ngoleuni'r digwyddiadau yn yr Unol Daleithiau, ar draws y byd a phrotestiadau yng Nghymru yn dilyn marwolaeth George Floyd, a wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu ei pholisïau ar gydlyniant cymunedol?
(60 munud)
(60 munud)
(60 munud)
(15 munud)
NDM7327 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn
ddrafft o'r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr
Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio)
(Coronafeirws) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r
fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2020.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
(60 munud)
NDM7328 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw am
ymchwiliad annibynnol wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y
Senedd, i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r
pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y
pandemig o dan reolaeth, ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd
Cymru.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu 'wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y Senedd'.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu “ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru”.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu 'ac i'w gwblhau' a rhoi yn ei le 'ac i adroddiad cychwynnol ar ei ganfyddiadau gael ei gyflwyno '
Gwelliant 4 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am gychwyn ymchwiliad annibynnol yn cydredeg, wedi'i arwain gan farnwr, i'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 10 Mehefin 2020